Mae myfyriwr o Grŵp Colegau NPTC yn gwneud cynnydd sylweddol ym maes pêl-fasged genedlaethol ac yn rhyngwladol ar ôl dechrau chwarae am y tro cyntaf ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.
Dechreuodd Jacob Smith chwarae pêl-fasged ym mis Hydref 2023 yn 14 oed. Cafodd ei gyflwyno i bêl-fasged ar hap ar ôl i’w fam ddweud wrth gyd-weithiwr a oedd yn hyfforddi pêl-fasged fod ganddo ddiddordeb.
“Es I I sesiwn hyfforddi i roi cynnig arni ac roeddwn i wrth fy modd ” dywedodd Jacob. “Doedd dim llawer o brofiad gen i ar y dechrau, ond roeddwn i’n mwynhau chwarae mewn tîm ac roeddwn i am wella drwy’r amser.”
Ymunodd â’r tîm Port Talbot Spartans o dan 16 oed, sy’n cystadlu yng Nghynghrair Pêl-fasged De Cymru, gan hyfforddi ddwywaith yr wythnos wrth ddysgu hanfodion y gêm. Yn ystod ei dymor cyntaf, cafodd ychydig iawn o gyfleoedd i chwarae mewn gemau, gan chwarae am gwpl o funudau yn unig mewn pump neu chwe gêm, ond roedd yn dal i fod yn ymrwymedig ac yn parhau i hyfforddi trwy gydol yr haf i wella ei sgiliau.
Roedd ei ymrwymiad wedi dwyn ffrwyth dros yr haf yn 2024 wrth i’w hyfforddwr ym Mhort Talbot Spartans ei enwebu ar gyfer gêm brawf gyda Vale Vipers, clwb a leolir yn Y Barri sy’n cystadlu ar lefel y Gynghrair Genedlaethol ac yn wynebu timau o bob cwr o Gymru a De-orllewin Lloegr. Roedd Jacob yn llwyddiannus yn y gêm brawf ac ymunodd â thîm y Vale Vipers o dan 16 oed, gan barhau i chwarae gyda Phort Talbot Spartans yng nghynghrair De Cymru.
Y tymor canlynol, symudodd Jacob ymlaen at y tîm Vale Vipers o dan 18 oed. Daeth y tîm yn ail yn y cynghrair gan golli’r lle cyntaf ar ganlyniadau pen i ben er gwaethaf ennill yr un pwyntiau. Roedd y tymor yn golygu teithio i chwarae yn erbyn timau ar draws yr ardal, yn cynnwys gemau cyn pelled â Plymouth a Chaerwysg.
Mae Jacob yn flaenwr pŵer neu ganolwr, safle sy’n gofyn llawer o safbwynt corfforol ac yn gofyn am nerth, symudedd a chysondeb o ran ymosod ac amddiffyn.
“Fel canolwr neu flaenwr pŵer, mae gofyn i fi fod yn gryf wrth ymosod ac amddiffyn,” esboniodd. “Mae hyn yn cynnwys gwrthlamu, gosod sgriniau a cheisio sgorio trwy ddefnyddio fy maint i helpu’r tîm.”
Yn ystod yr haf 2025, adnabuwyd cynnydd Jacob ar lefel genedlaethol wrth iddo gael ei enwebu gan ei hyfforddwr Spartans i dreialu ar gyfer y tîm Academi o dan 17. Yn dilyn gemau prawf yng Nghaerdydd, cafodd ei ddethol a dechreuodd hyfforddi gyda’r academi ym mis Medi 2025.
Arweiniodd hyn at fwy o lwyddiant wrth i Jacob hefyd gael ei ddethol i gynrychioli Cymru o dan 17 ar daith i Lithwania ym mis Mawrth 2026. Teithiodd y tîm i Kaunas, ail ddinas Lithwania, i chwarae pedair gêm yn erbyn timau academi Lithwania.
“Mae pêl-fasged yn enfawr yn Lithwania, felly roedd yn brofiad gwych,” dywedodd Jacob. “Llwyddon ni i ennill dwy gêm a cholli dwy ac roedd chwarae yn erbyn timau academi ar y lefel hon o gymorth mawr o ran fy natblygiad.”
Ar hyn o bryd mae Jacob yn hyfforddi gyda thîm Cymru tua unwaith y mis yng Nghaerdydd gan obeithio cael ei ddethol ar gyfer Twrnamaint y Cenhedloedd Cartref yn Glasgow ym mis Mehefin, gydag uchelgeisiau tymor hir o gynrychioli Prydain Fawr yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â’i ymrwymiadau ym maes chwaraeon, mae Jacob yn astudio cymwysterau Safon Uwch mewn Seicoleg, Daearyddiaeth a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC. Mae e’n gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol ar ôl cwblhau ei astudiaethau gan barhau i chwarae pêl-fasged ar lefel uchel.
Yr haf hwn, mae Jacob wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i wersyllfa pêl-fasged gyfun sy’n para am fis a fydd yn rhoi cyfle iddo ddatblygu ei chwarae bellach, ennill profiad gwerthfawr a rhoi ei hun ar brawf mewn amgylchedd datblygu cystadleuol.
Cymorth yn y Coleg a Chyllid ar gyfer Bwrsariaethau
Mae Jacob wedi cael ei gefnogi trwy fwrsariaeth Chwaraeon a Diwylliant gan Grŵp Colegau NPTC, sydd wedi ei helpu i reoli’r costau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant a chystadlu ym maes pêl-fasged ar lefel uchel.
“Prin iawn yw’r cyllid ar gyfer pêl-fasged yng Nghymru,” dywedodd. “Fel arfer, mae fy rhieni yn gorfod talu’r ffioedd clwb a ffioedd Cymru, costau cyfarpar a gwisgoedd, yn ogystal â chostau teithio felly mae’r cyllid gan y coleg wedi bod o gymorth enfawr.”
Mae’r fwrsariaeth wedi helpu i leihau’r straen ariannol sy’n gysylltiedig â chydbwyso addysg ochr yn ochr â chwaraeon ar lefel elitaidd, gan alluogi Jacob i barhau i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar lefel uchel a chyfleoedd datblygu.
Canmolodd Donna Gwilliam, darlithydd Daearyddiaeth a chyn tiwtor personol Jacob, ei ymrwymiad yn academaidd ac yn athletaidd. Dywedodd:
“Mae Jacob yn fyfyriwr cydwybodol sy’n hoff iawn o bêl-fasged. Mae e’n rhannu ei brofiadau a’i gystadlaethau yn ystod sesiynau tiwtorial sy’n helpu i gyfoethogi ein trafodaethau. Mae wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad i’w astudiaethau eleni ar yr un pryd â chydbwyso ei amserlen brysur ym maes chwaraeon. Mae Jacob wedi ymgysylltu’n dda â’i bynciau sef Daearyddiaeth, Seicoleg a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, gan ddangos ymagwedd aeddfed tuag at ddysgu a pharodrwydd i gyfrannu’n feddylgar. Mae e’n ddysgwr ysbrydoledig.”
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch i gefnogi myfyrwyr fel Jacob i gyflawni eu huchelgeisiau academaidd ar yr un pryd ag anelu at ragoriaeth mewn chwaraeon a gweithgareddau cyfoethogi.
I gael mwy o wybodaeth am astudio cymwysterau Safon Uwch a’r cymorth sydd ar gael trwy Academi’r Chweched Dosbarth, cliciwch y linc isod.