Cyflogau Cystadleuol
Cynlluniau Pensiwn Ardderchog

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae’r rhain yn cael eu gweinyddu trwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy’n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i’ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Gwyliau Blynyddol

Mae’r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1.

Fel darlithydd, bydd gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni’n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol.

Fel staff cymorth, bydd gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol.

Fel rheolwr, bydd gennych 37 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni’n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 50 diwrnod o wyliau blynyddol.

Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Datblygiad Staff

Mae’r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i’n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy’n ddefnyddiol i’ch swydd.

Academi Chwaraeon Llandarcy (LAS)

Mae gan bob aelod o staff hawl i aelodaeth o’r LAS ar gyfradd â chymhorthdal, sy’n cynnwys defnydd anghyfyngedig o’r ystafell iechyd a ffitrwydd, ardal hyfforddi swyddogaethol o’r radd flaenaf, campfa’r Gweilch, partïon plant am bris gostyngol (10%). Gall staff hefyd fwynhau gostyngiad o 10% ar fwyd ym mar a bwyty’r Pafiliwn.

Meithrinfa Ddydd Lilliput (Coleg Castell-nedd)

Mae staff sy’n defnyddio’r Feithrinfa ar gyfer gofal plant yn derbyn gostyngiad o 10%.

Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol

Mae Academi Lee Stafford ar gael yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd, a hi yw’r unig un o’i math yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant unigryw a dosbarthiadau meistr eithriadol i ddarpar drinwyr gwallt nad yw ar gael iddynt yn unman arall gan y triniwr gwallt i’r sêr, Lee Stafford.

Rydym yn cynnig ystod lawn o driniaethau gwallt a therapïau cymhwysol a ddarperir gan ein myfyrwyr dan oruchwyliaeth lawn. Cynigir pob triniaeth gyda gostyngiad o 20%, gan ddefnyddio cynhyrchion o ansawdd uchel, gan gynnwys cynhyrchion Dermalogica a Lee Stafford.

Caffeterias a Bwytai

Gweinir prydau am bris rhesymol iawn bob dydd yn ein Siop Goffi ym Mwyty Hyfforddi Blasus yng Ngholeg Castell-nedd ac mae ein becws Cymreig traddodiadol yn cynnig cynnyrch clasurol a chyfoes yn ogystal ag amrywiaeth eang o ddanteithion patisserie a melysion.

Mae Siop Goffi Themâu, sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd, yn gweini detholiad o frechdanau ffres, prydau arbennig y dydd, a chacennau cartref bob dydd Mercher. Mae Bwyty Hyfforddi Themâu yn gweini cinio 3 chwrs blasus bob dydd Iau a Bistro bob dydd Gwener, i gyd am brisiau rhesymol.

Adnoddau Dysgu

Mae gan yr holl staff fynediad i holl Lyfrgelloedd y Coleg.

Meithrinfa Garddwriaeth

Mae planhigion sy’n cael eu tyfu gan fyfyrwyr Garddwriaeth yng Ngholeg Castell-nedd ar gael i’w prynu am brisiau rhesymol iawn.

Parcio Ceir

Mae maes parcio a storfa feiciau am ddim ar gael i bob aelod o staff a myfyriwr ar ein campysau.

Gwasanaethau Iechyd a Llesiant/Cymorth Staff

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae’n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grŵp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Gofal Llygaid

Mae’r Coleg yn cynnig talebau gofal optegol trwy Specsavers. Mae pob taleb yn darparu archwiliad llygaid llawn mewn unrhyw gangen o Specsavers a chyfraniad o hyd at £65, os gwelir bod angen sbectol yn unig ac yn benodol at ddefnydd VDU.