Hysbysebu

Mae Grŵp Colegau NPTC yn hybu cyfle cyfartal yn weithgar ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Trwy ddefnyddio dulliau amrywiol o hysbysebu swydd wag, mae’r Coleg yn teimlo ei fod mewn sefyllfa well i ddenu ystod eang o ymgeiswyr sydd â’r profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Yn allanol, mae hysbysebion bob amser yn cael eu gosod ar y gwefannau canlynol: Canolfan Byd Gwaith, FE Jobs, Adzuna, Eteach, Addysgwyr Cymru, X, Facebook, LinkedIn, Instagram ac ar y wefan hon. Mae hysbysebion bob amser yn cael eu hysbysebu’n fewnol i sicrhau hygyrchedd.

Gwneud cais am Swydd Wag

Gall ymgeiswyr wneud cais ar-lein trwy glicio ar y botwm ar ochr dde’r swydd a hysbysebir.

Tynnu’r Rhestr Fer

Ar ôl y dyddiad cau, anfonir ceisiadau i’r adran berthnasol ar gyfer llunio rhestr fer. Asesir pob ymgeisydd yn erbyn y meini prawf cyhoeddedig. Gwahoddir yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf orau i gyfweliad. Bydd yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn bodloni’r meini prawf yn cael eu hysbysu o hyn.

Geirdaon

Gofynnir am ddau eirda ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, a rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar gan ddefnyddio llythyr cais am eirda safonol. Gall apwyntiadau gael eu hoedi hyd nes derbynnir geirdaon. Mae pob penodiad yn amodol ar ddau eirda boddhaol.

Cynnig Cyflogaeth

Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn anfon cadarnhad ysgrifenedig at ymgeiswyr aflwyddiannus a llwyddiannus. Anfonir llythyr cynnig cyflogaeth a phecyn recriwtio at yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i chi ddechrau eich cyflogaeth.