1. Dewiswch eich pwnc neu eich cwrs

Bydd mynychu Nosweithiau Agored ac ymchwilio i’n cyrsiau’n eich helpu i benderfynu!

Porwch ein cyrsiau Rhan-Amser

2. Ymgeisio

Ar ôl i chi ddewis eich cwrs neu bwnc, gallwch glicio ar y botwm gwyrdd ‘Gwnewch Gais ‘Nawr’ neu ‘Ymholi’ o dan y lleoliad astudio o ddewis. Os byddwch yn ‘Ymholi’, byddwn yn cofrestru eich diddordeb ac yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth bellach.

Bydd clicio ‘Gwnewch Gais ‘Nawr’ yn mynd â chi i’n porth ymgeisio lle gofynnir ichi greu cyfrif i gychwyn eich cais. Byddwch yn gallu arbed a dychwelyd i’ch cais tra bydd ar y gweill.

Angen dychwelyd i’ch cais? Cliciwch ar y ddelwedd isod.

Prentisiaethau

Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth, cysylltwch â Hyfforddiant Pathways yn pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

3. Cyfweliad

Ar ôl i chi gwblhau eich cais, byddwn wedyn yn gofyn i chi drefnu apwyntiad cyfweliad. Byddwn yn trefnu’r rhain yn fuan a bydd manylion yn cael eu postio yma a’u cyfleu i ymgeiswyr.

Os ydych chi o dan 18 oed bydd angen i chi gael rhiant / gwarcheidwad i ymuno â chi ar gyfer y cyfweliad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu amser pan maen nhw’n gallu bod yn bresennol.

Bydd ein darlithwyr yn cael sgwrs gyda chi i sicrhau eich bod ar y cwrs iawn ac i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Yn dilyn hyn, byddwn yn gwneud cynnig amodol i chi. Yr amod yw eich bod yn cwrdd â’r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs o’ch dewis.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses gyfweld, cysylltwch â admissions@nptcgroup.ac.uk

 

Peidiwch ag anghofio ymweld â’n Parth Myfyrwyr lle byddwch chi’n gallu dod o hyd i hyd yn oed mwy o wybodaeth am ymuno â’r Coleg.

Ewch i’n Parth Myfyrwyr

4. Cadwch mewn cysylltiad

Hoffi ni a darllen y newyddion diweddaraf drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Facebook

 

Twitter

 

 

YouTube