Beth yw AU?

Mae AU yn sefyll am Addysg Uwch ac yn cyfeirio at gyrsiau lefel uwch neu gyrsiau prifysgol. Mae yna ystod o gymwysterau un-lefel felly adolygwch y rhain i weld pa fath o gymhwyster fyddai orau i chi.

Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau ar lefel prifysgol, mae rhai yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol, ac mae rhai yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â sawl prifysgol yng Nghymru. Mae llawer o’n cyrsiau’n gymwysterau galwedigaethol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr, i’ch arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyflogwyr ac i wneud y dilyniant i gyflogaeth yn haws.

Univerity of Wales Technical Institutions UWTI Logo in white, Welsh and English.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn gorff cysylltiedig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a ddynodwyd yn Athrofa Technegol Prifysgol Cymru (UWTI). Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Choleg Sir Benfro i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Sefydliadau Technegol ei lywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.

Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau a ddarperir gan y coleg fel un o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn derbyn dyfarniad a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae rhestr lawn o’n cyrsiau Addysg Uwch gan gynnwys Mynediad i Addysg Uwch isod. Defnyddiwch y cyfleuster chwilio i ddod o hyd i’r cwrs addysg uwch i chi neu bori trwy ein meysydd pwnc trwy glicio ar y delweddau isod.