Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymroddedig i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir a gwireddu eich breuddwydion!

Rydym nid yn unig yn darparu ystod wych o gyrsiau Safon Uwch llawn-amser, cyrsiau galwedigaethol â ffocws gyrfaol a phrentisiaethau mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu byd gwaith, ond rydym hefyd yn cynnig cymorth unigol i ddiwallu eich anghenion penodol chi.

Yn fwy na hynny, mae dewis astudio gyda ni’n golygu y bydd gennych fynediad at staff â chymwysterau uchel a chyfoeth o brofiad o’r diwydiant a hefyd ystod o adnoddau eithriadol a chyfleoedd allgyrsiol megis ein hwb Menter a Chyflogadwyedd a’n holl Academïau Chwaraeon, Cerddoriaeth a Dawns.

Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio Grŵp Colegau NPTC fel y darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw yng Nghymru a’r deg uchaf yn y DU yn y ‘Gwobrau Gadael Ysgol 2020’. Fe’n pleidleisiwyd hefyd fel y coleg addysg bellach rhif dau yn y DU a’r degfed am y profiad dysgu gorau. Nid oes amser gwell i ymuno â ni!

Cymerwch gip ar ein cyrsiau amser llawn isod. Ar ôl i chi benderfynu, gallwch glicio ar y botwm ‘Gwnewch Gais ‘Nawr’ ar dudalen y cwrs i gychwyn eich cais.

Gallwch ddarganfod mwy am ein tudalen ‘Sut wneud i cais’.




Cwrs
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Egwyddorion a Chyd-Destunau (Amser Llawn) - Addysg Bellach
IMI Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gateway (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Lefel 1 mewn Trin Gwallt a Harddwch (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 1 Peirianneg Fodurol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 2 Atgyweirio Corff Cerbyd IMI (Corff) (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd City & Guilds (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 2 Peirianneg Amaeth (Llawn Amser) - Addysg Bellach
LEFEL 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd, Ymarfer a Theori (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 3 mewn Therapïau Chwaraeon (Amser Llawn) - Addysg Bellach