Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymroddedig i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir a gwireddu eich breuddwydion!

Rydym nid yn unig yn darparu ystod wych o gyrsiau Safon Uwch llawn-amser, cyrsiau galwedigaethol â ffocws gyrfaol a phrentisiaethau mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu byd gwaith, ond rydym hefyd yn cynnig cymorth unigol i ddiwallu eich anghenion penodol chi.

Yn fwy na hynny, mae dewis astudio gyda ni’n golygu y bydd gennych fynediad at staff â chymwysterau uchel a chyfoeth o brofiad o’r diwydiant a hefyd ystod o adnoddau eithriadol a chyfleoedd allgyrsiol megis ein hwb Menter a Chyflogadwyedd a’n holl Academïau Chwaraeon, Cerddoriaeth a Dawns.

Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio Grŵp Colegau NPTC fel y darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw yng Nghymru a’r deg uchaf yn y DU yn y ‘Gwobrau Gadael Ysgol 2020’. Fe’n pleidleisiwyd hefyd fel y coleg addysg bellach rhif dau yn y DU a’r degfed am y profiad dysgu gorau. Nid oes amser gwell i ymuno â ni!

Cymerwch gip ar ein cyrsiau amser llawn isod. Ar ôl i chi benderfynu, gallwch glicio ar y botwm ‘Gwnewch Gais ‘Nawr’ ar dudalen y cwrs i gychwyn eich cais.

Gallwch ddarganfod mwy am ein tudalen ‘Sut wneud i cais’.




Cwrs
Busnes Safon Uwch (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Busnes, Rheolaeth a TG – BA (Anrh) (Amser-Llawn) Corff Dyfarnu: Prifysgol Wrecsam - Addysg Uwch a Graddau
Camddefnyddio Sylweddau – Tystysgrif Addysg Uwch (Amser Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Cemeg – Safon Uwch / Gwyddoniaeth (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Cerddoriaeth – HND (Amser-Llawn) - Addysg Uwch a Graddau
Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Academi Pêl-droed mewn Partneriaeth â Chlwb Pêl-droed y Drenewydd / CPD Llansawel) - Addysg Bellach
Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol L3 - Addysg Bellach
Coginio Proffesiynol Uwch Lefel 3 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Coprio a Chrefftau Greenwood Lefel 2 Diploma Coleg Mynyddoedd Du NVQ (Amser-Llawn) - Addysg Bellach
Crefftau Ymarferol Porth (Llawn-amser) - Addysg Bellach