P’un a ydych chi’n chwilio am hobi newydd, yn ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith neu ddim ond angen cymwysterau i ddechrau gyrfa newydd, fe welwch ystod eang o gyrsiau byr, rhan-amser a phroffesiynol yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Gall dysgu rhan-amser wella eich rhagolygon swydd cyfredol neu roi hwb i yrfa newydd sbon mewn sawl sector, yn enwedig y rhai sydd â phrinder sgiliau. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i symud ymlaen neu i newid gyrfaoedd yn gyfan gwbl.

Mae ein cyrsiau sy’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, yn hyblyg ac yn cynnig maint dosbarthiadau bach sy’n cynnig cefnogaeth un i un.

Mae gennym gyllid ar gael ac mae llawer o gyrsiau am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch cymhwyster*.

Cyfrifon Dysgu Personol

Rhaglen a lansiwyd gan Llywodraeth Cymru yw Cyfrif Dysgu Personol (CDP) i gael mynediad at gyrsiau rhan-amser hyblyg gyda’r nod o gael y sgiliau a’r cymwysterau y byddai eu hangen arnoch i newid gyrfaoedd neu uwchsgilio yn eich maes cyflogaeth cyfredol i gael mynediad at ehangach ystod o gyfleoedd gwaith a / neu ennill cyflogaeth ar lefel uwch.

Cliciwch yma i ddarganfod a ydych chi’n gymwys

Mae’r ceisiadau ar agor – ewch i dudalen cwrs i ddechrau.

Cliciwch y botymau isod i bori trwy ein llyfrynnau cwrs neu defnyddiwch y swyddogaeth chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i’ch cwrs.

Nosweithiau Agored

Os oes angen mwy o wybodaeth neu gyngor arnoch chi, gallwch chi hefyd ymuno â ni yn un o’n Nosweithiau Agored sydd ar ddod.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein Nosweithiau Agored sydd ar ddod

* 1. Bydd ffioedd cwrs perthnasol am ddim.

2. Gellir cynnal ymgynghoriad i benderfynu ar gymhwysedd a ffrydiau ariannu sydd ar gael, lle bo angen.

3. *Gall costau ychwanegol megis deunyddiau, aelodaeth broffesiynol a ffioedd arholiad fod yn berthnasol.




Cwrs
Rheoli Busnes – Gradd Ychwanegol BA (Anrh) (Rhan-amser) - Addysg Uwch a Graddau
Rheoli Diogelwch Gwybodaeth ISO27001 (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Diogelwch Gwylwyr Lefel 4 (Rhan-Amser) - Addysg Bellach
Rheoli Iechyd a Lles Dofednod (Rhan-Amser) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglen Agile (AgilePgM®) – Ystafell Ddosbarth Rithwir (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) 5ed Fersiwn, Ailgofrestru (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) 5ed Fersiwn, Sylfaen – Ystafell Ddosbarth Rithwir (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) 5ed Fersiwn, Sylfaen ac Ymarferydd – Ystafell Ddosbarth Rithwir (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) 5ed Fersiwn, Sylfaen ac Ymarferydd gydag Arholiadau (e-Ddysgu) - Addysg Bellach
Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) 5ed Fersiwn, Ymarferydd – Ystafell Ddosbarth Rithwir (e-Ddysgu) - Addysg Bellach