Crynodeb o’r cwrs

Mae’r HND mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn rhaglen sy’n para blwyddyn yn amser llawn / dwy flynedd yn rhan-amser ar lefel prifysgol a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o’r diwydiant adeiladwaith, neu sy’n gweithio ynddo.

Bydd y cwrs yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau mewn rheoli safleoedd, contractau a rheoli a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM), cynaliadwyedd a rheoli adeiladau cymhleth.
Byddwch yn astudio meysydd allweddol fel cyfraith seiliedig ar adeiladwaith, dulliau adeiladwaith modern amgen (AMC), diogelwch safleoedd ac yn ogystal â thechnegau rheoli safleoedd, byddwch hefyd yn dysgu am weithdrefnau contractau, rheoli prosiectau a’r broses asesu risg adeiladwaith.