Mae’r BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod yn gwrs Addysg Uwch blwyddyn llawn amser wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o wybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i weithio gyda phlant a phobl ifanc o’u genedigaeth hyd at 18 oed. Mae’r rhaglen yn archwilio gofal, datblygiad ac iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol. Mae’n addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn, neu sy’n anelu at weithio mewn, rolau fel nyrsio, ymwelwyr iechyd, addysg, gofal plant, gwaith cymdeithasol, cyfiawnder ieuenctid, gorfodi’r gyfraith, a gwasanaethau cysylltiedig o fewn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol. Mae’r cwrs yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad a lles plant, gan baratoi myfyrwyr i gefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc drwy gydol plentyndod a’r glasoed.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol De Cymru.
Gellir cael mynediad i gyrsiau atodol drwy gwblhau HND neu Radd Sylfaen (GS) mewn Astudiaethau Busnes yn llwyddiannus gyda phrof l pasio. Os oes gennych HND neu GS mewn maes pwnc arall, bydd mynediad ar y cwrs yn ddibynnol ar y modiwlau yr ydych wedi eu cy awni. Mae gwiriad DBS uwch yn angenrheidiol ar gyfer y rhaglen hon, a chodir ta^l ychwanegol ar y myfyriwr am hynny.
Bydd mod di chi gamu ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â gofal plant, gan gynnwys TAR Blynyddoedd Cynnar/Addysg Gynradd, neu radd Feistr mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â phlant. Mae graddedigion yn meddu ar swyddi a rhagolygon hyfforddi mewn ystod eang o ddisgyblaethau gofal plant, er enghraifft; gwaith cymdeithasol, bydwreigiaeth a nyrsio plant/nyrsio pediatrig.
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith maes, sesiynau gweithdy a sesiynau tiwtorial. Fel arfer, bydd angen cyflawni aseiniadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol wrth i chi symud ymlaen trwy’r flwyddyn academaidd.
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Rheoli’r Amgylchedd Dysgu
- Plant a’r Gymdeithas Gyfoes
- Cefnogi a Gwerthuso Iechyd Cyfannol a Llesiant Plant a Phobl Ifanc
- Dylanwadau ar Ddatblygiad Cyfannol Plant a Phobl Ifanc
Fel arfer bydd raid i chi gwblhau tasgau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol wrth i chi symud ymlaen drwy’r wyddyn academaidd. Bydd traethawd yn ofynnol.