Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Bioleg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Fiolegydd, Gwyddonydd neu ddysgu mwy am wyddoniaeth. Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Mae llawer o’r pynciau’n berthnasol i fywyd bob dydd. Wrth ddysgu prif egwyddorion a chysyniadau bioleg, byddwch hefyd yn datblygu llawer o sgiliau pwysig a throsglwyddadwy. Bydd myfyrwyr yn ymdrin â Biocemeg Sylfaenol a Threfniadaeth Celloedd, Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau’r Corff, Ynni, Homeostasis a’r Amgylchedd yn ogystal ag Amrywio, Etifeddiaeth, a geneteg. Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.