BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Prentisiaeth) (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Bydd y cwrs cyfrifiadura hwn yn gweddu i fyfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa yn y sector TG cyffrous a newidiol.

Partneriaeth: Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

  • Gofynion Mynediad

    Mae'r meini prawf mynediad yn rhoi manylion cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynnig yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig, cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch ar radd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).

  • Rhagolygon Gyrfa

    Gallwch fynd ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig cysylltiedig â chyfrifiaduron. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau TGCh, er enghraifft: datblygu rhaglenni, peiriannydd meddalwedd, datblygwyr meddalwedd, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data ac ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth.

  • Manylion y cwrs

    Mae modiwlau Blwyddyn 1 yn cynnwys:

    • Systemau Cyfrifiadurol
    • Rheoli Data
    • Dylunio a Datblygu Gwe
    • Hanfodion Rhwydweithiau a Diogelwch
    • Datrys Problemau gyda Rhaglennu
    • Peirianneg Systemau a Gwybodaeth.

    Mae modiwlau Blwyddyn 2 yn cynnwys:

    • Cyfrifiadura Cyfrifol
    • Datblygu Rhaglenni Rhyngrwyd a Symudol
    • Cronfeydd data a Systemau Gwybodaeth ar y We
    • Rhaglennu Cymhwysol
    • Gweithredu Prosiectau Grŵp
    • Dylunio Prosiectau Grŵp.

    Mae modiwlau Blwyddyn 3 yn cynnwys:

    • Data a Ddosbathwyd a Dadansoddeg
    • Datblygu Symudol Uwch
    • Technolegau'r Dyfodol
    • Rheoli Prosiectau TG
    • Prosiect.

  • Asesiad

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol a sesiynau tiwtorial. Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth ichi symud ymlaen drwy'r rhaglen. Mae gan ddau fodiwl arholiad ac mae angen gwneud prosiect ymchwil.

Dull Astudio

Addysg Uwch a Graddau

Lleoliad

Coleg Castell-nedd - 01639 648000

Hyd y cwrs

3 Flynedd - Amser-Llawn

Ffioedd

Telir ffioedd gan Lywodraeth Cymru os cânt eu cyflogi gan fusnes yng Nghymru.