Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Technegol Lefel 2 mewn Technoleg Ddigidol (Rhwydweithio a Seiberddiogelwch) yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn a gynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn galwedigaeth rhwydweithio neu rôl dechnegol o fewn y diwydiant Cyfrifiaduro a TG.
Bydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith neu brentisiaeth drwy roi iddynt y cyfle i ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, a sgiliau technegol ac ymarferol ym maes cyfrifiadura, ynghyd â sut i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn amgylcheddau cyfrifiadura a TG sy’n gysylltiedig â gwaith. Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn dymuno arbenigo mewn rôl rhwydweithio neu seiberddiogelwch dechnegol a bydd yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i baratoi ar gyfer cyflogaeth.
Bydd y cwrs hefyd yn datblygu sgiliau gweithle trosglwyddadwy, fel cyfathrebu da a’r gallu i weithio mewn tîm, y mae cyflogwyr wedi’u nodi fel sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau cyflogaeth yn y sector cyfrifiadura, ac ar gyfer symud ymlaen unwaith y mae’r dysgwr yn gweithio.