Crynodeb o’r cwrs

Dyluniwyd cwrs Diploma Rhagarweiniol BTEC Lefel 1 BTEC i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden neu ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 2.

Mae’r modiwlau’n cynnwys: Datblygiad ymarferol a phersonol, gan gynnwys hyfforddiant ffitrwydd, ymarfer corff a chadw’n egnïol ac yn iach. Yn ogystal â chwarae, hyfforddi a threfnu chwaraeon. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau allweddol fel trefnu, cydweithio, ymchwilio a chreu cynlluniau personol.