Crynodeb o’r cwrs

Mae Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfun Lefel 2 BTEC yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dyheu am weithio yn y sectorau chwaraeon a chyhoeddus.

Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig ochr yn ochr â phrosiectau. Mae’r rhain yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle, gweithgareddau a gofynion Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwch yn edrych ar wahanol agweddau ar bob sector. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen dda i chi fynd ar gymhwyster uwch yn gysylltiedig â gwaith.