Crynodeb o’r cwrs

Mae’r rhaglen hon i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth gyfoes ac arferion rheoli cyfoes sy’n gysylltiedig â rheoli pobl a phrosiectau. Mae modiwlau ym mlwyddyn un yn cynnwys: Busnes: Yn y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol, Sgiliau Cyfathrebu Busnes ar gyfer Marchnata, Economeg, Datblygiad Proffesiynol mewn Cyfrifiadura: Peirianneg Gwybodaeth, Technolegau’r We a Systemau Cyfrifiadurol. Ym mlwyddyn dau: Cyfraith Fusnes, Ennyn Ymgysylltiad Pobl a’u Harwain, Hysbysebu a Brandio, Cyfrifiadura Cyfrifol, Dylunio Prosiectau Grwp, y Berthynas rhwng Pobl a Chyfrifiaduron. Ym mlwyddyn tri: Meddwl Strategol, Marchnata Strategol, Rheoli Prosiectau TG, Cyfrifiadura yn yr 21ain Ganrif a Thraethawd Hir.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Wrecsam