Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n dymuno ennill cymhwyster sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol busnes a rheoli y bydd ar unrhyw ddarpar reolwr neu berchennog busnes eu hangen. Mae’r cwrs Safon Uwch yn cynnwys ystod eang o bynciau busnes gan gynnwys Cyfleoedd Busnes, Swyddogaethau Busnes, Dadansoddi Busnes a Strategaeth Fusnes yn ogystal â Busnes mewn byd sy’n newid.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.