Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn rhedeg mewn partneriaeth gyda Chlwb Pêl-droed y Drenewydd a Chlwb Pêl-droed Llansawel, ochr yn ochr â’r Academi bêl-droed. Bydd pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan hyfforddwyr cymwys proffesiynol ac yn canolbwyntio ar ystod o anghenion hyfforddi’r pêl-droediwr, o sgiliau ymarferol i arweiniad maethol a seicolegol. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i chwaraewyr gynrychioli Grŵp NPTC a Chlwb Pêl-droed y Drenewydd neu Glwb Pêl-droed Llansawel mewn cynghrair gystadleuol yn erbyn cyd-golegau. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygiad yr athletwr Elitaidd ac mae’n cyfateb i 3 chymhwyster Safon Uwch a allai yn y pen draw arwain at Addysg Uwch neu lwybr gyrfa cysylltiedig â phêl-droed.