Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yn gwrs delfrydol i wella eich gwybodaeth ddamcaniaethol am lawer o elfennau ymarferol a themâu chwaraeon, gan gynnwys cadw’n heini ac iach, Gwyddor Chwaraeon a datblygu fel hyfforddwr.
Bydd y cymhwyster yn caniatáu i’r dysgwr ddewis llwybrau penodol :

• Hyfforddiant Chwaraeon
• Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel Pêl-foli, Pêl-droed, Pêl-rwyd a Rygbi

Mae’r unedau’n cynnwys: Anatomeg a ffisioleg, hyfforddiant ffitrwydd a rhaglennu, profi ffitrwydd, maeth chwaraeon a hyfforddi chwaraeon. Mae cymwysterau ychwanegol yn cynnwys Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon a Gwobrau CRhC (lle bo’n berthnasol)

Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch rhinweddau mewn hyfforddi, arwain a threfnu digwyddiadau trwy weithio ochr yn ochr â llawer o’n partneriaid, rhedeg gwyliau a gweithio gyda phobl ifanc sy’n frwd dros chwaraeon. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (SPS).