Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs byr 6 wythnos hwn yn eich cyflwyno i ystod eang o dechnegau crwst mewn lleoliad ymarferol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch helpu i feithrin hyder a sgiliau craidd mewn gwneud crwst ar gyfer mwynhad personol neu waith anffurfiol sy’n gysylltiedig â bwyd mewn amgylchedd dysgu cymdeithasol a chefnogol.

Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 5pm i 8pm
Dyddiad dechrau: Medi 2026
Hyd: 6 wythnos

I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau crwst melys a sawrus
• Dechreuwyr neu bobyddion cartref gydag ychydig neu ddim hyfforddiant ffurfiol
• Dysgwyr sydd â diddordeb mewn cyfleoedd mewn siopau becws, bwytai, siopau dros dro, gwyliau neu weithio o gartref

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Cynhwysion, dulliau ac offer allweddol a ddefnyddir wrth gynhyrchu crwst
• Sgiliau ymarferol wrth wneud crwst melys, sawrus, choux, pwff a laminedig
• Sut i weithio’n ddiogel ac yn effeithlon wrth bobi gartref neu yn y gweithle

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion crwst clasurol a pharhau i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer defnydd gartref neu yn y gweithle.