Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs dwys byr hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i’r sgiliau a’r technegau sy’n gysylltiedig â chrefft plastro.
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio dull ymarferol mewn gweithdai eang o dan gyfarwyddyd arbenigwyr plastro cymwys a phrofiadol.
Gall unigolion sydd am symud ymlaen i hyfforddiant a chymwysterau pellach ddilyn Diploma Lefel 2 QCF mewn Plastro (Galwedigaethau Trywel).
Cyflwynir y cwrs ar nos Fercher 6pm-9pm.