Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Cymhwyster Galwedigaethol (VRQ) diddorol ac ysgogol hwn wedi’i anelu’n gyffredinol at ddysgwyr sydd â diddordeb brwd mewn dysgu am gynnal a chadw ac atgyweirio sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth o sectorau modurol. Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n gyffredin i bob arfer modurol. Nod y cwrs yw archwilio systemau mecanyddol a thrydanol, sy’n nodweddiadol o gerbydau ysgafn ac atgyweirio damweiniau. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i’r ddau faes o’r diwydiant modurol a bydd yn cynorthwyo i symud ymlaen i’r Diploma Lefel 1.