Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs byr dwys hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol i’r sgiliau a’r technegau a ddefnyddir ym meysydd gwaith coed a gwaith saer. Dyluniwyd y cwrs hwn i’ch helpu i ddatblygu hyder a gallu sylfaenol trwy ddysgu ymarferol mewn amgylchedd gweithdy cefnogol o dan gyfarwyddiaeth staff cymwys a phrofiadol ym gwaith coed.
Dyddiad ac amser: Dydd Mercher, 6pm i 9pm
Dyddiad cychwyn: 23 Medi 2026
Hyd: 5 Wythnos
Dyddiadau cychwyn eraill sydd ar gael – 11 Tachwedd 2026 i 6 Ionawr 2027.
I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion heb unrhyw brofiad blaenorol sydd eisiau rhoi cynnig ar waith coed a gwaith saer
• Dysgwyr sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau adeiladu ymarferol
• Y rheiny sy’n ystyried symud ymlaen i hyfforddiant neu gymwysterau bellach mewn gwaith coed a gwaith saer
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Offer sylfaenol ar gyfer gwaith coed a gwaith saer, deunydd a therminoleg
• Sgiliau ymarferol mewn mesuro, torri, gosod a gorffennu
• Arferion gweithio diogel mewn amgylchedd gweithdy
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu sylfaen mewn sgiliau gwaith coed a gwaith saer a’r hyder i symud ymlaen i hyfforddiant neu gymwysterau ychwanegol os ydych yn dewis hyn.