Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau a pharatoi i weithio yn y diwydiant lletygarwch. Byddwch yn cael cyfle i weithio yn ein ceginau a’n bwytai proffesiynol, gan ddysgu sut i goginio a gweini bwyd yn broffesiynol.

Dyluniwyd y cymhwyster hwn i’w gyflwyno mewn amgylchedd Coleg gan ddefnyddio offer arbenigol a chyfleusterau hyfforddi y Coleg. Trwy gydol y rhaglen mae myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i sefyllfaoedd gwaith go iawn trwy Fwytai Hyfforddi Blasus a Themâu y Coleg a gallant ennill profiad yn y diwydiant wrth gael eu haddysgu gan staff medrus iawn.