Crynodeb o’r cwrs
Bydd y cwrs cyfrifiadura hwn yn gweddu i fyfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa yn y sector TG cyffrous a newidiol.
Mae’r cwrs yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Glyndwr Wrecsam
-
Gofynion Mynediad
Mae'r meini prawf mynediad yn rhoi manylion cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynnig yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig, cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch ar radd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
-
Rhagolygon Gyrfa
Gallwch fynd ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig cysylltiedig â chyfrifiaduron. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau TGCh, er enghraifft: datblygu rhaglenni, peiriannydd meddalwedd, datblygwyr meddalwedd, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data ac ymgynghoriaeth a rheolaeth systemau gwybodaeth.
-
Modiwlau’r cwrs
Gall modiwlau Blwyddyn 1 yn cynnwys:
• Systemau Cyfrifiadurol
• Rheoli Data
• Dylunio a Datblygu Gwe
• Datrys Problemau gyda Rhaglennu
• Peirianneg Systemau a Gwybodaeth.Gall modiwlau Blwyddyn 2 yn cynnwys:
• Cyfrifiadura Cyfrifol
• Datblygu Rhaglenni Rhyngrwyd a Symudol
• Cronfeydd data a Systemau Gwybodaeth ar y We
• Rhaglennu Cymhwysol
• Prosiect Grwp.Gall modiwlau Blwyddyn 3 yn cynnwys:
• Data a Ddosbathwyd a Dadansoddeg
• Datblygu Symudol Uwch
• Technolegau'r Dyfodol
• Rheoli Prosiectau TG
• Prosiect. -
Asesiad
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdai ymarferol a sesiynau tiwtorial. Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth ichi symud ymlaen drwy'r rhaglen. Mae gan ddau fodiwl arholiad ac mae angen gwneud prosiect ymchwil.
Dull Astudio
Dysgu-Oedolion
Lleoliad
Coleg Castell-nedd
Hyd y cwrs
3Y