Crynodeb o’r cwrs

Mae deall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol at ddibenion busnes yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth mewn technoleg gwybodaeth ac mewn amrywiaeth o sectorau busnes. Hefyd, mae sgiliau cyfryngau cymdeithasol wedi’u cysylltu’n agos â datblygu cymwysiadau gwe a symudol. Mae’r rhaglen hon yn rhoi man cychwyn i chi symud ymlaen i rolau fel arbenigwr cyfryngau cymdeithasol, datblygwr cynnwys a datblygwr gwe.