Mae’r cwrs Ail Iaith Cymraeg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar destunau penodol, gramadeg a ffilmiau. Mae angen cymryd diddordeb yn yr iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy wrando ar radio Cymru, gwylio S4C, cyrchu gwefannau a fideos Cymraeg ar YouTube.
Asesir y rhaglen trwy’r sgiliau canlynol: darllen, ysgrifennu a siarad. Cyflwynir gwersi trwy gyfrwng Cymraeg ar y cyfan, sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd y lefel uchaf o gywirdeb a rhuglder.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.
O leiaf chwe TGAU ar Radd C neu'n uwch gan gynnwys TGAU Cymraeg Ail Iaith.
Mae'r cwrs yn darparu sylfaen dda ar gyfer astudiaeth bellach o Gymraeg neu bynciau cysylltiedig mewn Addysg Uwch a gyrfaoedd mewn Addysgu, Cyfieithu, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Busnes, y Gyfraith, Peirianneg, AG, Gwasanaethau Cyhoeddus, a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Uned 1 Arholiad Llafar: Yn seiliedig ar y ffilm 'Patagonia' a gwaith cwrs, 15% o'r cymhwyster.
Uned 2 Gwaith Cwrs: Prosiect gyda thema Gymraeg, 10% o'r cymhwyster.
Uned 3 Papur Ysgrifenedig: Gramadeg a barddoniaeth, 15% o'r cymhwyster.
Uned 4 Arholiad Llafar: Yn seiliedig ar y ddrama ‘Crash’ a Chymraeg yn y cyfryngau a’r ardal leol, 20% o’r cymhwyster.
Uned 5 Papur Ysgrifenedig: Cymraeg mewn Cymdeithas a Llythyr, 20% o'r cymhwyster.
Uned 6 Papur Ysgrifenedig: Iaith a Straeon Byr, 20% o'r cymhwyster.
Mae ffi o £150 y pwnc pan yn astudio'n rhan-amser, sy'n daladwy ar adeg ymrestru.
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwrs.