Crynodeb o’r cwrs

Mae hon yn rhaglen beirianneg amlddisgyblaethol sy’n cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth beirianneg angenrheidiol i fyfyrwyr sydd am weithio ym maes peirianneg. Bydd myfyrwyr yn astudio Egwyddorion Peirianneg, Gweithio’n Effeithiol ac yn Ddiogel mewn Amgylcheddau Peirianneg, Egwyddorion cynnal a chadw mae nifer o unedau arbenigol megis unedau Mecanyddol, Hydrolig a weldio sy’n cefnogi’r rhaglen hon. Gall y cwrs Peirianneg Lefel 3 blwyddyn hwn ddarparu sylfaen eithriadol i adeiladu llwybrau gyrfa i gymwysterau masnach neu addysg lefel uwch fel HNC neu HND eto gan arwain ymlaen at statws Peiriannydd, a hyd yn oed Peiriannydd Siartredig. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i astudio ar lefel Prifysgol (HNC/HND) neu ddechrau cyflogaeth ar lefel technegydd.