Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth yn gwrs amser llawn gyda phresenoldeb yn y Coleg dros dri diwrnod yr wythnos, gyda gweddill yr wythnos yn cael ei dreulio mewn lleoliad gwaith addas. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i redeg y fferm deuluol neu sy’n dymuno cael gwaith ar lefel uwch mewn amaethyddiaeth.

Mae Diploma Estynedig Lefel 3 Coleg y Ddinas a’r Urdd yn cynnwys 180 credyd.
Bydd Diploma 90 credyd yn cael ei gwblhau ym mlwyddyn 1 a’r Diploma Estynedig llawn ym mlwyddyn 2.

Astudir ystod lawn o unedau. Mae hyn yn cynnwys; gwyddoniaeth anifeiliaid a chnydau, systemau cynhyrchu anifeiliaid, rheoli pridd, rheoli busnes gwledig, cynnal a chadw ystadau a systemau peiriannau.

Bydd cyfnod addas o brofiad gwaith perthnasol hefyd.