Crynodeb o’r cwrs

.Mae’r Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad blaenorol o’r diwydiant garddwriaeth / garddio, ond a hoffai ddysgu sut i ddod yn arddwr / garddwriaethwr. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).

Mae’n cyfuno gwaith dosbarth a gwaith ymarferol, gan edrych ar ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth / garddio.