Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth: Llwybr Peirianneg yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau amaethyddol.
Fel arfer byddwch yn mynychu’r coleg am dri diwrnod yr wythnos ac yn astudio pob agwedd ar beirianneg amaethyddol sylfaenol gan gynnwys cynnal a chadw tractorau a pheiriannau a gweithrediadau. Bydd y diwrnodau sy’n weddill yn cael eu treulio yn cael profiad gwaith perthnasol o fewn gweithle addas megis gweithdy peiriannau amaethyddol neu ddelwriaeth.
Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddiant/Llwyddiant* a detholiad priodol o gymwysterau TGAU, Graddau A*-E.
Gellid camu ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
Cyflwyniad i Weithrediadau Peiriannau Tir, Gyrru Tractor, Cyflwyniad i Ymarfer Gweithdy Diwydiannau'r Tir a Chyflwyniad i Egwyddorion Peiriannau Tir. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd tystysgrifau cymhwysedd mewn ATV, Telehandler a Phlaladdwyr. Bydd angen dillad ac esgidiau gweithio priodol arnoch i gynnwys oferôls ac esgidiau blaen dur. Rhaid i'r holl ddillad ac esgidiau gwaith fod yn lân gan fod bioddiogelwch o'r pwys mwyaf.