Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaethol Ymarferol yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o arddwriaeth / garddio. Mae’n addas i unrhyw un sy’n dymuno gweithio fel garddwr / garddwriaethwr. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).

Mae’n cyfuno darlithoedd â gwaith ymarferol. Mae’r cwrs yn darparu sylfaen yn yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn garddwriaeth / garddio.