Crynodeb o’r cwrs

Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel.

Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun. Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol.

Ymhlith yr unedau mae Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, Cyfrifon Rheoli (gan gynnwys Taenlenni), Ymwybyddiaeth Busnes a Phrosesau Treth i Fusnesau a fydd yn darparu dealltwriaeth dda i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.

AAT Approved