Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Lefel 3 BTEC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yn gwrs Rhan amser ar lefel uwch, lle mae ystod o fodiwlau adeiladu yn cael eu hastudio. Mae’r rhain yn cynnwys: iechyd, diogelwch a lles, arolygu safleoedd, adeiladu cynaliadwy, a Mathemateg, Gwyddoniaeth a deunyddiau mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Bydd y cwrs hwn yn diwallu anghenion y rhai sy’n dyheu am yrfa broffesiynol neu dechnegol ym maes adeiladu a pheirianneg sifil. Mae’r cwrs nid yn unig yn gweithredu fel llwybr i gyflogaeth amser llawn yn y diwydiant, ond mae hefyd yn llwybr dilyniant profedig i Addysg Uwch.
Gall hyn fod yn rhaglenni statws gradd llawn mewn Prifysgolion neu’n barhad yng Ngrwp Colegau Castell-nedd sy’n astudio’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).