Crynodeb o’r cwrs
Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel. Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun.
Mae’r cwrs hwn yn rhedeg ar ddydd Mercher rhwng 09:00 a 17:00. Dim ond wyneb yn wyneb y cynhelir y cwrs hwn yng Ngholeg Castell-nedd ar hyn o bryd – gall myfyrwyr ddewis mynychu’n bersonol neu ar-lein. Ar-lein yn unig y cynhelir y cwrs i fyfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd.
Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol. Yn ogystal â ffi’r cwrs, bydd angen i fyfyrwyr dalu ffioedd arholiad o £350 (gallai’r corff dyfarnu newid ffioedd arholiad).
Mae’r unedau’n cynnwys Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol, Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol a Systemau a Rheolaeth Fewnol, ynghyd â 2 uned ychwanegol sy’n cynnwys Archwilio a Sicrwydd a Threth Bersonol a fydd yn darparu dealltwriaeth dda i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.
