Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma rhan-amser mewn Coginio Proffesiynol yn addas i unrhyw un sy’n gweithio fel cogydd yn y sector arlwyo a lletygarwch.
Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi chi fel dysgwr i ddod yn gogydd proffesiynol trwy gwblhau cymwysterau safon diwydiant; ennill gwybodaeth am amrywiaeth eang o sgiliau a phrosesau coginio.
Mae’r lefel hon yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio fel cogydd ers cryn amser.

Cwrs 33 wythnos yw hwn, i’w gynnal ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth, 3:30-7: 30.