Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Mynediad i AU – Y Dyniaethau yn gwrs blwyddyn amser llawn wedi’i gynllunio i baratoi myfyrwyr i astudio’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol mewn Addysg Uwch. Mae’n rhoi i chi yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella eich potensial o ran cyflogaeth.
Mae’r cwrs hwn yn gwrs hybrid gyda rhai darlithoedd yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb a rhai darlithoedd yn cael eu cyflwyno ar-lein.