Mae’r Rhaglen Astudiaethau Chwaraeon ddeinamig a diddorol hon wedi’i chynllunio i roi sylfaen gynhwysfawr i fyfyrwyr yn agweddau damcaniaethol ac ymarferol chwaraeon, iechyd a ffitrwydd. Trwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, profiad ymarferol a chyfranogiad cymunedol, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer addysg bellach neu yrfa yn y diwydiant chwaraeon.
2 TGAU gradd C neu uwch/cyfwerth
Trwy gwblhau'r dyfarniad hwn gallwch naill ai chwilio am gyflogaeth addas yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden neu os ydych wedi symud ymlaen yn dda gyda geirdaon cadarnhaol gan eich tiwtoriaid, ynghyd â chael graddau uchel trwy gydol eich cwrs gallech wneud cais am gwrs Lefel 3 addas.
Hyfforddi Chwaraeon
Chwaraeon Ymarferol
Gwirfoddoli mewn Chwaraeon
Cymryd Rhan mewn Chwaraeon
Ffordd o Fyw a'r Perfformiwr Chwaraeon
Cynllunio a Chynnal Digwyddiad Chwaraeon
Cyflwyniad i Ymarfer Corff Iach a Maeth
Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer Ymarfer Corff
Yn ogystal, bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau:
Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon Lefel 1
Llythrennedd Digidol Lefel 1
Ailsefyll TGAU Mathemateg neu Saesneg (lle bo'n berthnasol)
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys cyflwyniadau gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol. Caiff yr holl waith ei raddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn.
Cit Chwaraeon y Coleg (prynu ar-lein). Mae'n bosibl y bydd angen cyfraniadau gan fyfyrwyr ar gyfer rhai gweithgareddau sy'n ymwneud â chwrs.