Y Diwydiant Gemau yw’r trydydd diwydiant mwyaf yn y byd ac mae’n ffynnu yng Nghymru, gyda chwmnïau fel Games Talent Wales a Rocket Science Cooperation yn gwneud argraff yn y sector datblygu gemau.
Bydd y Diploma UAL Lefel 2 yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i raglen Lefel 3, ymgeisio am gynllun prentisiaeth ac ymbaratoi ar gyfer gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol a digidol.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, sgiliau technegol ac ymarferol a chymhwyso’r sgiliau hyn mewn amgylcheddau cysylltiedig â gwaith. Mae’r cymhwyster hefyd yn cynnig dilyniant i gymwysterau Lefel 3.
2 TGAU, Gradd C neu uwch neu gymhwyster Lefel 1 perthnasol
Mae’r cymhwyster hwn yn targedu dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i weithio yn y Diwydiant Gemau, Y Cyfryngau Creadigol neu Dechnoleg Ddigidol, trwy gyfrwng prentisiaeth
neu Addysg Uwch o bosib.
- Dyluniwr Gemau
- Datblygwr Gemau
- Dyluniwr Lefelau
- Ysgrifennwr Gemau
- Animeiddiwr
-Datblygwr Meddalwedd
-Peiriannydd Sain
-Newyddiadurwr Gemau
Bydd Unedau Cwrs arferol yn cwmpasu’r meysydd dysgu canlynol: Y Diwydiant Gemau Cyfrifiadur, Celf Ddigidol 2D ar gyfer Gemau Cyfrifiadur, Ymchwil ar gyfer Dylunio Gemau Cyfrifiadur, Peiriannau Gemau Cyfrifiadur 2D, Prosiect Creu Gemau 2D, Cyflwyniad i Raglennu Gemau, Profi Gemau