Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Goruchwylio Lletygarwch (Blaen Ty) yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn y lletygarwch, digwyddiadau a’r diwydiant gwasanaeth. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i drefnu a rheoli digwyddiadau, cynadleddau a phriodasau ac i reoli bwytai, siopau coffi a gwestai.

Mae’r cwrs yn rhoi mewnwelediad i’r diwydiant sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ac yn paratoi’r myfyriwr ar gyfer byd gwaith mewn gwestai, bwytai, bariau a chlybiau.