Dylunio Peirianneg Ddiwydiannol (Electronig a Thrydanol) – BEng (Anrh) (Prentisiaeth Gradd)

Crynodeb o’r cwrs

Cynlluniwyd y rhaglen hon i uwchsgilio gweithwyr presennol sydd wedi cwblhau astudiaeth lefel 2/3/4 yn flaenorol, naill ai fel prentisiaid neu fel arall. Mae gofynion mynediad arferol i’r rhaglenni hyn yn berthnasol. Cynigir y rhaglen hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam Glyndwr.

  • Gofynion Mynediad

    Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â'ch cynnig, cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau.

    Cynnig nodweddiadol: 2 Lefel A ar Radd E neu broffil PP / PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU ar Radd C neu uwch, i gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol). Mae cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn dibynnu ar ofynion ychwanegol gan gynnwys bod yn weithiwr cyflogedig mewn rôl addas yn y sector a gweithio yng Nghymru am o leiaf 51% o'r amser gwaith.

  • Rhagolygon Gyrfa

    Gallwch symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg, er enghraifft: Peirianneg Drydanol, Peirianneg Electronig, Peirianneg Ddiwydiannol a Rheoli Gweithrediadau Peirianneg.

  • Modiwlau’r cwrs

    Gall modiwlau Blwyddyn 1 gynnwys:
    - Technegau Peirianneg Dadansoddol
    - Peirianneg Drydanol
    - Peirianneg Fecanyddol
    - Dysgu Seiliedig ar Waith
    - Safonau Peirianneg, Rheoli Busnes a Gweithrediadau
    - Dylunio a Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD).

    Gall modiwlau Blwyddyn 2 gynnwys:
    - Prosiect Diwydiannol
    - Technegau Rheoli Dadansoddol
    - Gweithgynhyrchu Modern, Cynaliadwyedd a Diwydiant
    - Offeryniaeth a Monitro Cyflwr
    - Awtomeiddio Diwydiannol a PLCs
    - Dosbarthu Pwer a Dylunio System.

    Gall modiwlau Blwyddyn 3 gynnwys:
    - Prosiect
    - Rheoli'r gweithlu ac Ymgysylltu ac Ymrwymiad
    - Systemau Cynnal a Chadw a Diogelwch
    - Modelu ac Efelychu Peirianneg
    - Systemau Cyfathrebu Diwydiannol

  • Asesiad

    Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweithdy ymarferol a sesiynau tiwtorial. Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen trwy'r rhaglen. Mae gan nifer o fodiwlau arholiadau ac mae angen prosiect ymchwil

Dull Astudio

Dysgu-Oedolion

Lleoliad

Coleg Castell-nedd

Hyd y cwrs

3Y

Ffioedd

19/20 fees: POA

Polisi Ffioedd