Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Cwrs Ffiseg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs amser llawn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a dod yn Ffisegydd.

Os ydych chi wedi’ch swyno gan y byd o’ch cwmpas ac yr hoffech chi ddeall mwy amdano neu os ydych chi’n meddwl am yrfa mewn Peirianneg, Meddygaeth, Electroneg, Seryddiaeth neu Dechnoleg, yna mae Ffiseg ar eich cyfer chi.

Byddwch yn dysgu dylunio arbrofion, defnyddio mathemateg, a chyfrifiadura mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, arsylwi digwyddiadau, gweithio’n hapus mewn tîm, creu syniadau newydd a meddwl am ddamcaniaethau newydd, a datblygu sgiliau datrys problemau rhesymegol a dadansoddol.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.