Crynodeb o’r cwrs
Nod y cwrs Ffotograffiaeth Ddigidol a Golygu Delwedd yw datblygu hyder a sgiliau mewn ffotograffiaeth. Bydd unigolion yn gallu cwrdd â phobl o’r un anian, rhannu arbenigedd a gwybodaeth am y pwnc.
Mae cael camera yn ddefnyddiol i ddatblygu sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ond nid yw'n hanfodol. Mae camerâu ar gael i'w defnyddio gan y cyfranogwyr yn ystod y cwrs.
Adolygir sgiliau technegol a chreadigol gan y tiwtor, ond nid oes angen asesiad ffurfiol.