Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sydd â chymhwyster Rheoliadau Dwr ac sy’n dymuno ennill y wybodaeth angenrheidiol i osod a chynnal a chadw systemau chwistrellu tân domestig.
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant chwistrellu a’r rhai sy’n dymuno uwchsgilio, newid proffesiwn neu ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno ymgymryd â DPP gyda’u gosodwyr.
Mae’r cwrs hwn yn digwydd dros 2 ddiwrnod:
– Bydd Diwrnod 1 yn cael ei gyflwyno ar-lein trwy Microsoft Teams
– Bydd Diwrnod 2 yn Ymarferol a gyflwynir yn bersonol yng Ngholeg Afan. Cadarnheir dyddiad yr ymarferol ar ôl derbyn y ffurflen archebu.