Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol gweithredol eraill sy’n edrych i ddatblygu eu gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli eu timau.

Mae’r cwrs hwn yn galluogi’r unigolyn i ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad, gwella perfformiad a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau uwch reolwyr trwy ddarparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheolaeth o ddydd i ddydd.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ac ymchwil bersonol. Bydd cynnwys yr ymchwil a chwrs yn cwmpasu’r oriau dysgu dan arweiniad gofynnol.