Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n gyffredin i bob practis Cerbyd Modur. Nod y cwrs yw archwilio’r holl systemau mecanyddol a thrydanol, sy’n nodweddiadol i gerbydau ysgafn. Cwblheir y cwrs trwy gyfrwng 2 arholiad ar-lein a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleuster gweithdy rhagorol. Mae hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cheir a cherbydau, sydd am ddod yn fecanig, i weithio mewn garej neu unrhyw ddiwydiant peirianneg moduron.