Crynodeb o’r cwrs
Mae cymwysterau BTEC y diwydiant Chwaraeon wedi’u hanelu at feysydd cyffrous sy’n tyfu’n gyflym yn y diwydiant chwaraeon ac wedi’u datblygu i fodloni safonau’r diwydiant, gan roi’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr gael gyrfa lwyddiannus. Bydd ennill y cymhwyster hwn yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swydd yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch ein canllaw safonau proffesiynol https://qualifications.pearson.com/content/dam/pdf/BTEC-Nationals/Sport/BTECSport_CIMSPA.pdf. Y math o swydd y byddwch yn barod amdani yw:
• Hyfforddwr Campfa.
Mae’r cymhwyster yn rhoi sylfaen gadarn i chi symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3, pan fyddwch yn astudio mewn rhaglen astudio lawn, fel BTEC Cenedlaethol Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon, BTEC Cenedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Busnes Hyfforddiant Personol a y BTEC Cenedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored
3 TGAU gradd C neu uwch a rhaid i un ohonynt fod neu Fathemateg neu’n Saesneg
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch wedi cyrraedd safonau'r diwydiant i weithio fel Hyfforddwr Campfa. Yn ogystal, bydd cyfle i gwblhau cymhwyster Achubwr Bywyd yn y Pwll sy'n caniatáu mynediad uniongyrchol fel achubwr bywydau.
Mae Diplomâu Lefel 2 BTEC mewn Sgiliau Diwydiant Chwaraeon yn gymwysterau canolradd ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau arbenigo mewn galwedigaeth benodol, maes galwedigaethol neu rôl dechnegol. Maent yn paratoi dysgwyr ar gyfer gwaith neu Brentisiaeth trwy roi cyfle iddynt ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, sgiliau technegol ac ymarferol, ac i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylcheddau sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r cymwysterau hefyd yn darparu dilyniant i gymwysterau Lefel 3 Technoleg. Mae 4 uned orfodol :
• Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
• Datblygiad Gwybodaeth a Sgiliau Hyfforddwr Ymarfer Corff
• Paratoi Cleientiaid ar gyfer Rhaglen Ymarfer Corff yn y Gampfa
• Gweithio fel Hyfforddwr Campfa
Asesiad mewnol ac asesiadau ymarferol
Ffioedd pecyn ac asesu ar gyfer Achubwr Bywyd y Pwll