Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma rhan-amser hwn mewn Coginio Proffesiynol wedi’i gynllunio ar gyfer cogyddion profiadol sy’n gweithio yn y sector arlwyo a lletygarwch. Mae’r cwrs yn eich galluogi i ennill cymhwyster safonol y diwydiant wrth ddatblygu gwybodaeth goginio uwch a sgiliau ymarferol. Mae’n ddelfrydol os ydych chi eisoes yn goruchwylio eraill neu’n rheoli adnoddau ac eisiau symud ymlaen i rôl uwch gogydd neu gogydd goruchwyliol mewn cegin broffesiynol.
Diwrnod ac amser: Dydd Llun neu ddydd Mercher i’w gadarnhau 3.30pm i 7.30pm
Dyddiad dechrau: 7fed Medi 2026
Hyd: Dwy flynedd (Medi i Fehefin)
I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion sy’n gweithio fel cogydd yn y diwydiant arlwyo neu letygarwch ar hyn o bryd
• Dysgwyr sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 neu sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol
• Unigolion sydd eisiau symud ymlaen i rôl uwch, oruchwyliol neu rôl fedrus fwy datblygedig
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Sgiliau a thechnegau coginio uwch a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol
• Sut i baratoi, coginio a chyflwyno ystod eang o seigiau cymhleth
• Safonau proffesiynol mewn diogelwch, hylendid a threfniadaeth cegin
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, gan gefnogi symud ymlaen i rolau uwch neu oruchwyliol o fewn y diwydiant arlwyo.