Lefel 6 Busnes, Rheolaeth a TG – BA (Anrh) (Amser-Llawn) Corff Dyfarnu: Prifysgol Wrecsam
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r rhaglen hon i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth gyfoes ac arferion rheoli cyfoes sy’n gysylltiedig â rheoli pobl a phrosiectau.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Wrecsam.
Mae'r meini prawf mynediad yn nodi cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais ar sail unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig cysylltwch â'n Tîm Derbyn. Cynnig nodweddiadol: 3 Safon Uwch â gradd C neu broffil DD/MMM o gymhwyster Lefel 3 BTEC a phum TGAU â Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Gallwch gamu ymlaen at amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy'n gysylltiedig â gofal plant, gan gynnwys TAR yn y Blynyddoedd Cynnar/Addysg Gynradd. Mae gan raddedigion ragolygon gyrfa mewn ystod eang o ddisgyblaethau gofal plant, er enghraifft: gweithwyr cymorth, rheolwyr gofal plant, gweithwyr cymorth dysgu a chynorthwywyr addysgu.
Gall Modiwlau Lefel 4 Gynnwys:
• Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes
• Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg
• Hanfodion Marchnata
• Diogelwch Gwybodaeth a Llwyodraethiant
• Systemau Cyfrifiaduron a Phensaernïaeth
• Methodolegau Datblygu Meddalwedd
Gall Modiwlau Lefel 5 Gynnwys:
• Arweinyddiaeth Ystwyth
• Strategaeth Busnes Digidol
• Entrepreneuriaeth ac Arloesi
• Cyfraith Busnes
• Strwythur Data ac Algorithmau
• Peirianneg Systemau a Rheoli Prosiectau
Gall Modiwlau Lefel 6 Gynnwys:
• Rheolaeth Strategol
• Marchnata Strategol
• Darganfod Bygythiadau ac Ymateb i Ddigwyddiadau
• Technolegau Ymddangosol
• Traethawd Estynedig
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen, ac fel arfer bydd yn rhaid i chi sefyll arholiadau ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd