Crynodeb o’r cwrs

Mae’n bosibl y bydd lleoedd ar gyfer dechrau yn 2020 yn dal i fod ar gael. Ewch i’n tudalen Clirio i gael gwybod rhagor https://www.nptcgroup.ac.uk/cy/clirio/

Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dewis gweithio o fewn maes amrywiol iechyd a lles cymunedol allu diwallu anghenion gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn y bobl y maent yn dod ar eu traws yn eu hymarfer.
Gall unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau fod ar unrhyw adeg mewn bywyd a gall fod ganddynt amrywiaeth o heriau iechyd meddwl, corfforol gwybyddol neu ymddygiadol.
Nod y cwrs hwn yw eich arfogi â’r gwerthoedd, y wybodaeth a’r sgiliau y gellir eu defnyddio ac sy’n benodol berthnasol i gyflogaeth ym maes Lles a Gofal Cymdeithasol yn y gymuned.
Mae’r rhaglen yn adlewyrchu materion cyfoes, tueddiadau cyfnewidiol a heriau o fewn y sector ac mae ganddi bwyslais ar wella ansawdd y gwasanaeth o fewn y maes ymarfer datblygol hwn.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys agweddau seicolegol a chymdeithasol ar iechyd a salwch, a dadleuon a dilemâu mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl a lles.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â’r Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.